R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae'r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau iechyd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)1846(FM)
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ei flaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yng ngorllewin Cymru dros y 12 mis nesaf? OAQ(4)1834(FM)
3. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chanser y coluddyn yng Nghymru?
OAQ(4)1839(FM)
4. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon? OAQ(4)1836(FM)
5. Lynne Neagle (Torfaen): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae cynllun Credyd Cynhwysol Llywodraeth y DU yn ei chael ar bobl yng Nghymru? OAQ(4)1848(FM)
6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â thrin canserau plentyn? OAQ(4)1838(FM)
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar weithredu adroddiad Andrews? OAQ(4)1833(FM)
8. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r angen i sefydlu swydd comisiynydd pobl anabl yng Nghymru? OAQ(4)1840(FM)
9. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli'n llawn o fewn cyrff traws-Brydeinig a rhyngwladol? OAQ(4)1842(FM)W
10. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar yr effaith y mae rhaglen ddiwygio lles Llywodraeth y DU yn ei chael ar gymunedau yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)1843(FM)
11. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa wybodaeth y mae'r Llywodraeth Cymru yn ei chael oddi wrth Lywodraeth Cymru am effaith diwygio lles? OAQ(4)1849(FM)
12. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer cyflwyno safonau'r Gymraeg? OAQ(4)1845(FM)W
13. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar fynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)1847(FM)
14. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol y diwydiant llaeth yng Nghymru? OAQ(4)1841(FM)W
15. Sandy Mewies (Delyn): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae newidiadau i fudd-daliadau lles ar lefel y DU wedi'i chael yng Nghymru? OAQ(4)1844(FM)